P-05-693 – Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhian Cecil ar ôl casglu 1,195 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Mae iechyd wedi'i ddatganoli'n llwyr i Gymru. Gofynnwn i'r Cynulliad ac i Mark Drakeford newid yr ystod oedran fel bod pob plentyn yn cael y brechlyn.

Mae pob plentyn mewn perygl o ddal yr haint ofnadwy hwn, ac eto dim ond babanod 2 i 5 mis oed y mae Llywodraeth Cymru yn eu brechu. Mae angen cyflwyno rhaglen i frechu pob plentyn hyd at 11 oed o leiaf. Gall heintiau meningococaidd fod yn ddifrifol iawn, gan achosi LLID YR YMENNYDD, SEPTISEMIA A MARWOLAETH

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·        Pontypridd

·        Canol De Cymru